Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Cacen Gri
Y Bala, Gwynedd
Ar adegau pan oedd bara’n brin neu pan ddisgwylid ymwelwyr i de prynhawn y gwneid y gacen hon yn Meirionnydd.
Y Rysáit
Byddwch angen
- hanner pwys o flawd
- pedair owns o ymenyn
- dwy owns o siwgr
- un wy
- dwy owns o gyrens
- chwarter llond llwy de o halen
- hanner llond llwy de o soda pobi
- llaeth enwyn neu lefrith
Dull
- Rhoi’r blawd mewn dysgl a rhwbio’r ymenyn iddo.
- Ychwanegu’r holl ddefnyddiau sych a’u cymysgu’n dda drwy’r blawd.
- Curo’r wy mewn dysgl arall.
- Gwneud pant yng nghanol y defnyddiau sych, tywallt y llaeth enwyn a’r soda pobi iddo, a thywallt yr wy i mewn i’r llaeth enwyn.
- Gweithio’r defnyddiau sych i mewn i’r gwlybwr, a’u cymysgu â llaw nes cael toes meddal.
- Taenu ychydig o flawd ar fwrdd pren, moldio’r toes arno a’i ledu â llaw nes llunio cacen gron o ryw hanner modfedd o drwch.
- Ei chrasu ar radell weddol boeth a’i lled-droi bob hyn a hyn i’w chrasu’n gyson.
- Yna ei throi a’i chrasu ar yr ail ochr.
- Hollti’r gacen a thaenu ymenyn arni cyn ei bwyta.
Y Bala, Meirionnydd.
Ffilm/Recordiad
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.