Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Teisen Lechwan

Dowlais, Merthyr Tudful

Gradell grog Caerdydd, 1880au

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd codi
  • chwarter pwys o ymenyn
  • chwarter pwys o lard
  • llond cwpan o siwgr
  • llond cwpan o gyrens
  • dau wy wedi’u curo
  • ychydig o halen
  • ychydig o laeth

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn a’r lard i mewn i’r blawd ac ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt. 
  2. Eu gwlychu â’r wyau a’r llaeth nes cael toes meddal. 
  3. Gyrru’r toes â rholbren a’i dorri’n deisennau bach, crwn. 
  4. Iro’r llechfaen (neu’r radell) a’i chynhesu nes gwelir bod ychydig o flawd, o’i daflu arni, yn cochi’n weddol fuan. 
  5. Rhoi nifer o’r teisennau arni (yn ôl maint y llechfaen) a’u crasu ar y ddwy ochr.

Dowlais, Morgannwg.

 

Ffilm/Recordiad

Richard Griffith Thomas o Langynwyd, Morgannwg yn disgrifio'r maen a'r tripat. Ganed Mr Thomas ym 1894.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.