Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Teisen ar y Maen
Kenfig Hill, Pen-y-bont
Yr un yw’r deisen ar y maen â’r deisen blât ond bod y naill wedi’i chrasu ar y maen a’r llall wedi’i chrasu ar blât mewn ffwrn.
Mynydd Cynffig, Morgannwg.
Y Rysáit
Byddwch angen
- pwys o flawd
- chwe owns o lard
- ychydig o halen
- dŵr
- unrhyw ffrwyth yn ôl y tymor – afalau, riwbob, etc.
- siwgr
- ymenyn
Dull
- Rhwbio’r lard i mewn i’r blawd a’r halen a’u cymysgu â dŵr i wneud crwst brau.
- Gyrru’r crwst yn ddarnau crwn o’r un maint â phlât cinio.
- Glanhau’r ffrwythau, eu torri (yn ôl yr angen) a’u rhoi ar un haen o’r crwst, gorchuddio’r ffrwythau â haen arall, a sleio ymylon y ddwy haen ar ei gilydd.
- Crasu’r deisen hon yn araf ar y maen, a’i throi wyneb i waered pan fo’r ochr isaf wedi crasu’n drwyadl.
- Crasu’r ail ochr yn yr un modd ac yna codi’r deisen a’i rhoi ar blât mawr neu fwrdd pren.
- Tra bod y deisen yn boeth, torri gydag ymyl haen uchaf y crwst, ei godi ymaith, a thoddi dau neu dri llond llwy fwrdd o siwgr i mewn i’r ffrwythau ynghyd ag ychydig o ymenyn.
- Yna rhoi’r crwst yn ôl yn ei le.
Cresir y deisen hon ar ffurf turn-over weithiau.
- Gyrru’r crwst yn un darn crwn, mawr, rhoi’r ffrwythau ar un hanner iddo a’u gorchuddio â’r hanner arall, gan selio ymylon y ddau hanner ar ei gilydd.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.