Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Leicecs

Y Bala, Gwynedd

Miss Catherine Jones, Y Bala, yn gwneud leicecs. 

‘Roedd leicecs yn rhan o’r ‘te croeso’ a roid i ymwelwyr yn siroedd Dinbych, Meirionnydd a Threfaldwyn.  Â’i gwraig y tŷ ati i’w gwneud ar ôl i’r ymwelwyr gyrraedd, ac fe’u caent yn gynnes gyda ‘phanaid o de.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pedair owns o flawd
  • tair owns o siwgr
  • ychydig o halen
  • un wy ac ychydig o lefrith neu laeth enwyn a chwarter llond llwy de o soda pobi

 

 

Dull

  1. Rhoi’r defnyddiau sych mewn dysgl.
  2. Curo’r wy yn dda a thywallt y llefrith arno (neu gymysgu’r soda pobi â’r llaeth enwyn).
  3. Gwneud pant yng nghanol y defnyddiau sych, tywallt y llaeth enwyn neu’r llefrith a’r wy iddo’n raddol, gan guro’r defnyddiau sych i mewn i’r gwlybwr â fforc nes cael cymysgedd heb fod yn rhy wlyb.
  4. Cynhesu’r radell o flaen llaw, ei hiro’n dda a chodi’r cymysgedd arni fesul llond llwy bwdin (neu ei dywallt allan o jwg, yn ôl y dewis). 
  5. Gadael i’r leicecs grasu nes bod swigod bach yn codi ar yr wyneb a’r ochr isaf wedi troi’n felyngoch. 
  6. Yna eu troi â chyllell i’w crasu ar yr ail ochr.
  7. Eu codi i blât neu ddysgl, taenu ymenyn arnynt a’u bwyta’n gynnes.

Y Bala, Meirionnydd.

 
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.