Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Ffroes

Crasu’r leicecs. Kennixton, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Y mae gwlychu blawd â wyau a llefrith neu laeth enwyn i wneud cytew a’i grasu’n deisennau crwn ar y radell, neu’r maen, yn gyffredin iawn trwy Gymru gyfan, ond y mae’r enwau a roir ar y teisennau yn amrywio’n fawr o sir i sir, ac o ardal i ardal.

Pancakes yw’r enw cyffredin arnynt yn Saesneg ond arferir yr enwau canlynol arnynt yn Gymraeg:

  • cramwythen ll. cramoth (rhannau o siroedd Caerfyrddin a Morgannwg)
  • crempog ll. crempogau (siroedd gogledd Cymru yn gyffredinol)
  • ffroesen ll. ffroes (rhannau o sir Forgannwg)
  • poncagen ll. poncagau (rhannau o Geredigion)
  • pancogen ll. pancocs (rhannau o Sir Benfro)
  • pancosen ll. pancos (rhannau o siroedd Caerfyrddin a Cheredigion)

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd plaen
  • ychydig o halen
  • ychydig o nytmeg
  • tair owns o siwgr
  • pedair owns o ymenyn
  • tri wy
  • ychydig o laeth cynnes
  • dau lond llwy de o bowdr codi

Dull

  1. Cymysgu’r blawd, yr halen, y siwgr a’r nytmeg mewn padell gynnes a rhwbio’r ymenyn i mewn iddynt. 
  2. Curo’r wyau’n drwyadl ac ychwanegu ychydig o laeth cynnes atynt. 
  3. Gwlychu’r defnyddiau sych yn raddol â’r wyau a’r llaeth a’u curo’n dda â llwy bren nes cael cytew llyfn.  Os gwelir ei fod yn rhy dew, gellir ychwanegu ychydig o laeth cynnes eto. 
  4. Gadael i’r cytew hwn aros am hanner awr. 
  5. Iro’r maen (neu’r radell) a’i boethi. 
  6. Pan fo’r maen yn weddol boeth, cymysgu’r powdr codi i mewn i’r cytew ond ni ddylid ei guro. 
  7. Yna codi’r cytew ar unwaith fesul llwyaid, a’i arllwys yn ofalus ar y maen gan geisio cadw’r ffroes yn grwn. 
  8. Pan welir bod wyneb uchaf y ffroes wedi caledu gellir eu troi wyneb i waered a’u crasu ar yr ochr arall. 
  9. Yna eu codi i blât, taenu ymenyn a siwgr arnynt, a’u cadw’n gynnes. 
  10. Parhau i grasu gweddill y cytew yn yr un modd.

Abercynon, Morgannwg.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.