Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Ffroes
Yr oedd cael ffroes i de yn rhan annatod o ddathlu penblwydd pob aelod o’r teulu yn ardal Dowlais ac mewn llawer ardal arall yn ne Cymru.
Y Rysáit
Byddwch angen
- pwys o flawd plaen
- owns o ymenyn
- owns o lard
- pedwar wy
- ychydig o laeth
- (cyrens)
Dull
- Gogr yn y blawd i ddysgl.
- Toddi’r ymenyn a’r lard ar soser a’u harllwys i bant yng nghanol y blawd.
- Curo’r wyau mewn ychydig o laeth, eu harllwys yn raddol i’r blawd gan gymysgu’r defnyddiau’n drwyadl nes cael cytew o’r un ansawdd â hufen tew.
- Ychwanegu ychydig o ddŵr at y cytew cyn gorffen ei guro, i’w wneud yn ysgafn.
- Toddi owns o saim ar ffreipan neu blanc, ac arllwys hanner llond cwpan o’r cytew arni. (Gellir rhoi ychydig o gyrens yn y cytew wrth ei grasu, yn ôl y dewis.)
- Gadael i’r cytew grasu nes gweld tyllau bach yn ymddangos ar yr wyneb cyn troi’r ffroesen wyneb i waered i’w chrasu ar yr ochr arall.
- Yna ei chodi a’i rhoi ar blât mawr, a thaenu ychydig o ymenyn a siwgr arni.
- Parhau i grasu gweddill y cytew yn yr un modd, a rhoi’r ffroes yn bentwr, un ar ben y llall, i’w cadw’n gynnes.
Ffroes eira
- Cymysgu llond cwpan o eira glân i mewn i’r cytew uchod yn lle dŵr. Yr oedd yr eira yntau’n ei ysgafnhau.
Dowlais, Morgannwg.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.