Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Crempog
‘Te a chrempog’ oedd y te croeso a roid i bobl ddieithr yn sir Gaernarfon a sir Fôn. Gwneid hwy yno hefyd ar ddydd Mawrth Ynyd. Ar gyfer y diwrnod hwnnw, byddid yn paratoi tri math o grempog – crempog wen (o flawd peilliaid) a chrempog furum ar gyfer y meistr a’r teulu, a chrempog surgeirch ar gyfer y gweision a’r morynion.
Y mae pobl yn cofio am blant yn cerdded o ddrws i ddrws yn Llŷn yn hel crempog ar ddydd Mawrth Ynyd, gan ganu’r rhigwm:
‘Sgwelwch chi’n dda ga’i grempog?
Mae ‘ngheg i’n grimpin grempog
Mae Mam rhy dlawd i brynu blawd
Mae ‘Nhad rhy ddiog i weithio
‘Sgwelwch chi’n dda ga’i grempog?
Y Rysáit
Byddwch angen
- deg owns o flawd plaen
- hanner llond llwy de o halen
- dwy owns o ymenyn
- tri chwarter peint o laeth enwyn cynnes
- dau wy
- tair owns o siwgr
- llond llwy de o soda pobi
- llond llwy fwrdd o finegr
Dull
- Toddi’r ymenyn yn y llaeth enwyn cynnes, eu tywallt i’r blawd yn raddol a’u curo’n dda. (Gadael i’r cymysgedd hwn sefyll am rai oriau, os yw’n bosibl.)
- Pan fyddir ar fin crasu’r crempog, curo’r wyau, cymysgu’r siwgr, y soda pobi a’r finegr i mewn iddynt, a’u tywallt ar ben y cymysgedd cyntaf.
- Curo’r cyfan yn dda nes cael cytew llyfn.
- Iro’r radell a’i chynhesu’n gymedrol.
- Tywallt y cytew arni fesul llond llwy fwrdd, a chrasu’r crempog ar y ddwy ochr.
- Rhoi ymenyn a siwgr arnynt tra fyddont yn boeth a’u bwyta’n gynnes.
- (Y mae rhoi llond cwpan o hufen sur yn y cytew yn helpu’r crempog i godi.)
Llanfachreth, Môn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.