Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Crempog Furum

Capel Garmon, Conwy

Y Rysáit

Byddwch angen

  • deuddeg owns o flawd plaen
  • dau wy
  • tri llond llwy fwrdd o siwgr
  • clap da o ymenyn
  • chwarter owns o furum
  • pinsiaid o halen
  • llaeth neu laeth enwyn (digon i wneud cytew tew)

Dull

  1. Cymysgu’r burum ag ychydig o siwgr a dŵr cynnes a’i adael i ‘weithio’ mewn lle cynnes.
  2. Cynhesu’r llaeth neu’r llaeth enwyn a rhoi’r ymenyn ynddo i doddi.
  3. Gogryn y blawd a’r halen i ddysgl, ychwanegu’r siwgr atynt a gwneud lle yn eu canol i dderbyn yr wyau, ar ôl eu curo’n dda. 
  4. Yna tywallt y llaeth i’r cymysgedd hwn, yn raddol, a’i guro’n dda nes bod y cytew o ansawdd hufen tew. 
  5. Yn olaf, ychwanegu’r burum a rhoi’r cytew o’r neilltu mewn lle cynnes nes y bo’r burum wedi ‘gweithio’.
  6. Crasu’r crempog ar radell neu badell ffrio yn y dull arferol.
  7. Yna hollti pob crempog drwy’r canol, taenu ymenyn arni a’i bwyta’n gynnes.

Crempog Surgeirch

Paratoid y math hwn o grempog yn yr un dull â’r grempog forum, ond blawd haidd neu flawd ceirch a roid ynddynt ynghyd ag ychydig o beilliaid. Gwneid hwy yn rhai mawr, tenau a thaenid ymenyn a thriog arnynt.

Capel Garmon, Dinbych.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.