Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Slapan Sir Fôn

Ynys Môn

Margaret Maddocks yn crasu teisennau crwn mewn ffwrn dun, Corneli Uchaf, Morgannwg.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner pwys o flawd plaen
  • dwy owns o siwgr
  • dwy owns o gyrens
  • pinsiaid o halen
  • pinsiaid o soda pobi
  • chwarter pwys o ymenyn
  • dau wy
  • ychydig o laeth enwyn sur

 

Dull

  1. Rhoi’r defnyddiau sych (ac eithrio’r soda pobi) mewn dysgl a’u cymysgu’n dda. 
  2. Toddi’r soda mewn llond llwy de o laeth enwyn sur. 
  3. Toddi’r ymenyn drwy ei roi mewn powlen a rhoi honno i sefyll mewn dŵr poeth.
  4. Curo’r wyau’n dda a’u tywallt yn araf i’r ymenyn, ac yna ychwanegu’r soda gwlyb atynt. 
  5. Tywallt y trwyth hwn i mewn yn raddol i’r defnyddiau sych a’u curo nes cael cytew gweddol dew.
  6. Iro’r radell neu badell haearn ag ymenyn a thywallt y cytew arni, fesul llond llwy fwrdd. 
  7. Crasu a throi’r slapan yn yr un dull â chrempog. 
  8. Yna ei hollti gan roi ymenyn ar y ddau hanner a’u bwyta’n gynnes.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.