Amser Bwyd
Cig Moch a Chabaits
Ystalyfera, Castell-nedd
Cegin Rhyd-y-car, 1855
Yr oedd hwn yn bryd poblogaidd i ginio nos yng nghymoedd y glo yn ne Cymru.
Y Rysáit
Byddwch angen
- darn o gig moch hallt
- cabetsen
- tatws
- sôs persli
Dull
- Rhoi’r cig yn wlych mewn dŵr oer dros nos i dynnu peth o’r halen ohono.
- Berwi’r cig mewn sosban haearn a chadw’r dŵr y berwid ef ynddo.
- Berwi’r gabetsen yn y dŵr hwnnw, a berwi’r tatws mewn sosban ar wahân.
- Gadael i’r cig oeri.
Sôs persli
- Ychwanegu ychydig o laeth at y dŵr y berwid y tatws ynddo, rhoi talp o ymenyn ynddo a’i flasu ag ychydig o bersli wedi’i falu.
- Tewhau’r sôs ag ychydig o fflŵr wedi’i gymysgu â dŵr o flaen llaw, a’i ferwi am rai munudau.
- Arllwys y sôs dros y tatws a’r cabets ac ar sleisen neu ddwy o’r cig oer.
Ystalyfera, Morgannwg.
Ffilm/Recordiad
Mae rhai yn ystyried cawl fel pryd cenedlaethol Cymru. Yn draddodiadol, dyma oedd prif ymborth nifer o deuluoedd, ac fel y mwyafrif o ryseitiau, roedd yn amrywio o ardal i ardal ac o deulu i deulu yn dibynnu ar y cynhwysion a'u tymor. Mewn rhai ardaloedd gweinwyd y cawl heb y cig a'r llysiau fel cwrs cyntaf, a'r llysiau a'r cig berw fel prif gwrs. Pryd tebyg a weinwyd yng ngogledd Cymru oedd lobsgows. Dyma Rhian Gay yn dangos sut i baratoi cawl.