Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Slapan Dafydd

Llanfachraeth, Sir Fôn

Y Rysáit

Byddwch angen

  • deg owns o flawd plaen
  • dwy owns o ymenyn
  • hanner peint o laeth enwyn cynnes
  • dau wy
  • tair owns o siwgr
  • tair owns o syltanas
  • llond llwy fwrdd o finegr
  • llond llwy de o soda pobi
  • hanner llond llwy de o halen

 

Dull

  1. Toddi’r ymenyn yn y llaeth enwyn. 
  2. Rhoi’r blawd, yr halen a’r syltanas mewn dysgl, gwneud lle yn eu canol i dderbyn y llaeth enwyn cynnes a’r ymenyn, a’u cymysgu’n dda. 
  3. Gadael i’r cymysgedd hwn sefyll am rai oriau, os yw’n bosibl.
  4. Pan fyddir ar fin crasu’r slapan, curo’r wyau’n dda, ychwanegu’r siwgr, y soda a’r finegr atynt, a’u tywallt ar ben y cymysgedd cyntaf, gan droi’r cyfan yn drwyadl.
  5. Iro’r radell a thywallt y cymysgedd arni i wneud un slapan fawr. 
  6. Ei chrasu yn yr un dull â chrempog, ei hollti tra’i bod hi’n gynnes a rhoi ymenyn arni.

Llanfachreth, Môn.


 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.