Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Gyrru bara ceirch. Mrs Catrin Evans, Llanuwchllyn, Meirionnydd
'Hala' bara ceirch. Mrs May Davies, Llan-saint, Sir Gaerfyrddin
Y mae gwneud bara ceirch yn hen grefft sydd yn nodweddiadol o’r Alban, o Loegr, o Gymru ac o Iwerddon fel ei gilydd, ond mae gan bob gwlad, ac yn wir llawer sir ac ardal o fewn yr un wlad, ei mân amrywiadau arni. Wrth reswm, yr un yw’r grefft yn ei hanfod – rhaid cael y defnyddiau crai, sef blawd ceirch a dŵr, eu gwneud yn does, llunio hwnnw’n dorthau, a’u crasu. Y nod yw llunio torth denau, gron a’i hymyl mor llyfn â phlât, ac y mae cyfrinach y grefft honno ynghlwm wrth y dull a arferir i yrru ac i lunio’r dorth. Y mae’n dra thebyg fod dau ddull gwahanol wedi’u mabwysiadu yng Nghymru, y naill yn cael ei arfer heddiw yn sir Feirionnydd (ac sydd yn nodweddiadol o siroedd gogledd Cymru yn gyffredinol), a’r llall a fyddai’n cael ei arfer mewn rhai ardaloedd yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi.
Disgrifir y ddau ddull hyn yn y cyfarwyddiadau canlynol:
Y Bala, Meirionnydd.
Dull cyffredin o fwyta’r bara ceirch hwn yn siroedd gogledd Cymru oedd rhoi darn o dorth geirch naill ai rhwng dwy frechdan wen neu wyneb yn wyneb ar un frechdan wen. Amrywiai’r enwau a roddid ar y rhain, e.e., ‘brechdan gaerog,’ ‘brechdan linsi,’ brechdan fetal,’ ‘piogen’ a ‘pioden’.
Ni roid unrhyw fath o saim yn y bara ceirch a ddefnyddid yn sylfaen i’r brwes, y siot a’r picws mali; yr un oedd y grefft o’i wneud ond ni fyddid yn gyrru’r torthau mor denau â’r un a ddisgrifir uchod.
Glan-y-fferi, Caerfyrddin.
Mrs Catrin Evans, Rhyd-y-bod, Cynllwyd yn crasu bara ceirch ar dân agored. Mae'r offer a'r adnoddau i gyd yn draddodiadol. Roedd gan Mrs Evans hir brofiad o wneud bara ceirch, felly mae'r grefft yn cael ei harddangos ar ei gorau. Yn y ffilm gwelir y lle tân, sef grât a dau bentwr bob ochr, a'r radell yn gorffwys ar y pentan. Mae Mrs Evans yn taenu blawd ceirch ar y radell i brofi'r gwres. Os yw'r blawd yn cochi ychydig, yna mae'n brawf bod y radell yn y gwres priodol i grasu'r torthau. Gwelir Mrs Evans yn glanhau'r radell â'r adain bobi (adain gŵydd). Mae'n cydio mewn torth geirch rhwng cledr y ddwy law a'i gollwng ar y radell. Gadewir y dorth i grasu am ychydig funudau cyn ei throi â'r grafell. Wedi crasu'r ail ochr, mae Mrs Evans yn rhoi'r dorth ar ei hochr yn y rhes flaen ar y car bara ceirch. Y dywediad ar lafar gwlad oedd rhoi'r torthau 'ar eu cyllyll', sef ar eu hochr ar y car.