Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Bara Bwff
Gwneid y bara bwff hwn ar y ffermydd yn sir Fôn ar ddydd Mawrth Ynyd. Hwn fyddai’r gweision a’r morynion yn ei gael i de prynhawn pan fyddai’r meistr a’i deulu’n bwyta crempog.
Môn.
Y Rysáit
Byddwch angen
- wyth owns o flawd plaen
- tair owns o flawd ceirch neu flawd gwenith
- tri chwarter owns o furum
- llond llwy de o siwgr
- llond llwy de o halen
- dwy owns o ymenyn
- chwarter peint o lefrith
- chwarter peint o ddŵr cynnes
- dau wy wedi’u curo
Dull
- Rhoi’r blodiau a’r halen mewn jwg fawr, gynnes.
- Cynhesu’r ymenyn a’r llefrith mewn sosban wrth ochr y tân.
- Cymysgu’r burum a’r siwgr, eu toddi yn y dŵr cynnes a’u tywallt ar ben yr ymenyn a’r llefrith.
- Ychwanegu’r wyau atynt.
- Gwlychu’r blodiau’n raddol â’r cymysgedd hwn a’u curo’n dda.
- Rhoi’r cytew i godi am ychydig o amser mewn lle cynnes.
- Tywallt y cytew, fesul tipyn, ar radell gynnes, a’i grasu yn yr un dull â chrempog.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.