Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Teisen Dinca

Gwaelod-y-garth, Morgannwg

Mrs Violet James yn paratoi teisen dinca

Mrs Violet James yn paratoi teisen dinca

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd plaen
  • wyth owns o ymenyn
  • chwech owns o siwgr coch, bras
  • wyth owns o afalau wedi’u torri’n ‘sglodion mân (shredded apple)
  • ychydig o halen
  • llaeth

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd a chymysgu’r afalau, y siwgr a’r halen drwyddynt. 
  2. Eu gwlychu ag ychydig o laeth a’u cymysgu’n drwyadl i wneud toes gweddol sych.
  3. Gyrru’r toes â rholbren a’i lunio’n dorth gron. 
  4. Ei chrasu ar y ddwy ochr ar faen gweddol boeth. 
  5. Yna ysgwyd siwgr mân ar ei hwyneb a’i thorri’n ddarnau bach hwylus i’w bwyta.

Gwaelod-y-garth, Morgannwg.

  1. Dull arall o baratoi’r deisen hon oedd ei chymysgu’n wlypach na’r un a ddisgrifir uchod gan roi wy ynddi, a’i chrasu mewn ffwrn dun (Dutch oven) o flan y tân.  Yr oedd hon yn debyg, o ran ansawdd, i’r deisen lap a gresid yn yr un modd.

Pen-tyrch, Morgannwg.

Ffilm/Recordiad

Rhian Gay yn arddangos dull gyfoes o baratoi dinca fala.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.