Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Cacen Gaws

Bro Gŵyr

Buddai bwrdd

Byddai gwragedd ffermydd Bro Gŵyr yn gwneud y cacennau hyn pan fyddai cyflenwad da o laeth wrth law ganddynt.

Bro Gŵyr.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • peint a hanner o laeth
  • llond llwy bwdin o gwyrdeb
  • dau lond llwy fwrdd o siwgr
  • un wy
  • tair owns o gyrens
  • llond llwy de o sbeis
  • crwst brau

Dull

  1. Cynhesu’r llaeth, rhoi’r cwyrdeb ynddo a’i gymysgu drwyddo’n drwyadl. 
  2. Ei adael i oeri a cheulo. 
  3. Yna ei roi mewn darn o fwslin a gwasgu’r maidd yn llwyr ohono. 
  4. Curo’r wy a’i ychwanegu at y ‘colfran’ ynghyd â’r siwgr, y sbeis a’r cyrens.
  5. Gyrru’r crwst yn y dull arferol a’i dorri’n ddarnau crwn (tua maint plat bach neu soser efallai). 
  6. Rhoi’r cymysgedd hwn ar un hanner o’r darn crwst, plygu’r hanner arall drosto, a selio ymylon y ddau hanner ar ei gilydd.
  7. Crasu’r cacennau ar faen gweddol boeth.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.