Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Tato

Dinas Cross, Sir Benfro

Yr oedd gwneud bara tato yn ddull cyffredin o ddefnyddio’r tatws a fyddai’n weddill ar ôl cinio mewn llawer ardal yn sir Benfro a sir Aberteifi.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o datws
  • pedair owns o flawd
  • dwy owns o siwgr
  • owns o ymenyn
  • dwy owns o gyrens
  • ychydig o laeth

Dull

  1. Berwi’r tatws a’u ‘pwnno’n dda.  (Gellir defnyddio’r tatws sydd yn weddill ar ôl cinio, os dymunir.)
  2. Toddi’r ymenyn i mewn i’r tatws ac yna ychwanegu’r defnyddiau sych atynt, gan gymysgu’r cyfan yn dda. 
  3. Eu gwlychu ag ychydig o laeth yn ôl yr angen, nes cael toes meddal.
  4. Rhoi’r toes ar fwrdd pre nag ychydig o flawd arno, a’i yrru’n dorth gron, heb fod yn rhy drwchus.
  5. Crasu’r dorth ar blanc gweddol boeth nes cael lliw melyngoch ar y ddwy ochr.
  6. Taenu ymenyn arni i’w bwyta.

Dinas Cross, Penfro.

Ffilm/Recordiad

Roedd Poten Dato neu Deisen Dato yn gyffredin yn sir Benfro a sir Aberteifi adeg codi tatws yn yr Hydref. Roedd y fersiwn draddodiadol yn felys ac yn cynnwys siwgr, sbeis a chyrens. Yn y ferswin fodern yma mae Rhian Gay wedi hepgor y cynhwysion melys er mwyn creu cacennau bychan fyddai'n wych ar gyfer canapés

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.