Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Teisen Hufen

Rhigos

Crasu’r leicecs. Kennixton, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Dim ond ar achlysuron arbenning y gwnâi gwragedd ffermydd gogledd Morgannwg y deisen hon, ac fe’i cyfrifid yn ‘foethyn’ ganddynt.

Rhigos, Morgannwg.

Ceir tystiolaeth mewn ardaloedd ym Mro Morgannwg am grasu’r cytew hwn ar waelod y ffwrn dun (Dutch oven) o flaen y tân. (Gellid rhoi cynnig ar ei grasu heddiw mewn tun o dan y gridyll gan ofalu ei fod yn ddigon isel o dan y gwres.)

Y Rysáit

Byddwch angen

  • chwarter pwys o flawd
  • owns a hanner o siwgr gwyn
  • un wy
  • hufen ffres

Dull

  1. Cymysgu’r siwgr a’r blawd mewn dysgl, torri’r wy i ganol y defnyddiau hyn a’i guro â fforc.
  2. Ychwanegu hufen ffres at y cymysgedd nes ei gael i’r un ansawdd â chytew crempog.
  3. Iro’r maen ag ymenyn a rhoi’r cymysgedd arno fesul llond llwy fwrdd. 
  4. Crasu’r teisennau ar y ddwy ochr nes eu bod o liw coch, ysgafn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.