Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pwdin Nadolig

Dowlais, Merthyr Tudful

Cerdyn Nadolig o'r casgliad

Byddai pob aelod o’r teulu yn cymryd ei dro i droi a chymysgu’r pwdin ac yn cael gwneud dymuniad ‘cudd’ ar yr un pryd.

Yr oedd hi’n arfer i guddio darnau bach o arian yn y pwdin – yr hen ddarnau tair ceiniog neu chwe-cheiniog – a mawr oedd y chwilio amdanynt yn y dysglau pwdin ar ddydd Nadolig.

Dowlais, Morgannwg.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner pwys o flawd plaen
  • hanner pwys o friwsion bara
  • hanner pwys o siwgr coch
  • chwech owns o siwet
  • pwys o gyrens
  • pwys o syltanas
  • pwys o resins
  • pedwar i chwech o wyau
  • ychydig o laeth neu gwrw
  • croen lemon wedi’i falu
  • afal mawr wedi’i dorri’n fân

Dull

  1. Chwalu’r siwet i mewn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u cymysgu’n drwyadl drwy’i gilydd. 
  2. Curo’r wyau a’u harllwys i ganol y defnyddiau sych gan ychwanegu llaeth neu gwrw, yn raddol, nes cael y cymysgedd i’r ansawdd priodol.
  3. Iro basnys pridd a rhoi’r cymysgedd ynddynt. 
  4. Rhoi darn o bapur ymenyn wedi’i iro ar wyneb y cymysgedd a chlymu lliain yn dynn ar wyneb pob basn. 
  5. Berwi’r pwdin am ryw saith awr gan gadw lefel y dŵr yn y sosban yn is nag ymyl y basnys.
  6. Ail-ferwi’r pwdin am ryw ddwy awr ar y diwrnod y bwriedir ei fwyta. 
  7. Ei dorri’n dafelli ac arllwys saws gwyn arno, yn ôl y dewis.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.