Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Pwdin Lwmp
Mynytho, Gwynedd
Yr hen drefn oedd berwi’r cymysgedd hwn yn un lwmp mawr mewn cwd lliain – yr arfer a roddodd iddo’r enwau ‘pwdin lwmp’, ‘pwdin clwt’ neu ‘pwdin cwd’. Byddid yn gwlychu’r lliain mewn dŵr oer ymlaen llaw i rwystro’r pwdin rhag glynu wrtho, rhwymo gwddf y cwd â llinyn, a’i grogi wrth ddarn o bren a roid ar draws y crochan.
Arferid gwneud y pwdin hwn ar gyfer cinio diwrnod dyrnu ar y ffermydd yn ogystal ag ar gyfer dydd Nadolig. Cai’r gweithwyr dafell ohono gyda phwdin reis cynnes ar ôl cinio o gig rhost, tatws a llysiau eraill. Gwneid ‘menyn melys’ i’w dywallt arno ar ddydd Nadolig.
Y Rysáit
Byddwch angen
- llond powlen o flawd plaen
- llond powlen o siwet
- llond powlen o gyrens
- llond powlen o siwgr
- llond powlen o gandi pîl
- ychydig o halen
- llond llwy fwrdd o driog
- wy neu ddau
- llaeth enwyn cynnes
Dull
- Torri’r siwet yn ddarnau mân a’i weithio drwy’r blawd.
- Ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u cymysgu’n drwyadl.
- Curo’r wyau a’u tywallt i bant yng nghanol y defnyddiau sych.
- Toddi’r soda pobi a’r triog yn y llaeth enwyn cynnes a’u hychwanegu’n raddol at y defnyddiau eraill nes cael cymysgedd o’r ansawdd priodol. (Ni ddylai fod yn rhy wlyb nac yn rhy sych.)
- Rhoi’r cymysgedd mewn basnys pridd a’u berwi yn y dull arferol am ryw bedair neu bum awr.
Mynytho, Caernarfon.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.