Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Saws Gwyn

Dowlais, Merthyr Tudful

‘Menyn melys’ yw’r enw a arferir ar y saws hwn mewn rhai ardaloedd yng ngogledd Cymru, e.e.

Uwch-mynydd, Llŷn.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner peint o laeth
  • tua llond cwpan o ddŵr oer
  • tua dau llond llwy bwdin o flawd plaen (neu cornflour)
  • ychydig o siwgr
  • ychydig o halen
  • diferyn o rum (yn ôl y dewis)

Dull

  1. Cymysgu’r blawd ag ychydig o’r llaeth mewn dysgl. 
  2. Cynhesu gweddill y llaeth a’r dŵr mewn sosban ac arllwys y cymysgedd blawd iddo. 
  3. Blasu’r saws ag ychydig o siwgr, halen a rum, ei droi’n gyson â llwy bren a’i godi i’r berw.
  4. Ei arllwys ar bwdin Nadolig.

Dowlais, Morgannwg.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.