Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Pwdin Reis
Pennant, Powys
Hwn oedd y pwdin a wneid yn fwyaf cyffredin ar gyfer cinio dydd Sul drwy Gymru gyfan. Ar ddiwrnod crasu bara mewn ffwrn wal, yr oedd hi’n arfer gan lawer i roi llond padell fawr o bwdin reis i grasu ynddi dros nos ar ôl tynnu’r torthau allan ohoni. Byddai’r ffwrn ‘yn dal ‘i gwres’ am rai oriau a chresid y pwdin yn araf yn y gwres hwnnw.
Pan na fyddai hi’n gyfleus i’w grasu mewn ffwrn yr oedd modd berwi’r reis mewn crochan neu sosban wrth ochr y tân.
Y Rysáit
Byddwch angen
- llond cwpan te o reis
- llond cwpan te o siwgr
- pedwar peint o lefrith
- ychydig o halen
- ychydig o nytmeg
Dull
- Rhoi’r reis mewn dysgl fawr, tywallt dŵr oer drosto, dim ond digon i’w orchuddio, a’i roi mewn ffwrn weddol boeth.
- Pan welir bod y dŵr wedi sychu a’r reis wedi chwyddo, tywallt y llefrith arno, ychwanegu’r defnyddiau eraill atynt, eu cymysgu’n dda, a malu ychydig o nytmeg ar wyneb y llefrith.
- Crasu’r pwdin mewn ffwrn weddol boeth nes ei fod wedi tewhau. (Byddid yn torri wy neu ddau i’r pwdin i’w dewhau weithiau ar achlysuron arbennig.)
Pennant, Maldwyn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.