Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pwdin Reis

Margam, Castell-nedd

Arllwys llefrith oer dros y dwmplins afalau

Ar achlysuron arbennig y gwneid y pwdin hwn ym Mro Morgannwg; fe’i cresid mewn pedyll tun mawr i’w cario allan i’r caeau yn ystod tymor y cynhaeaf gwair a’r cynhaeaf llafur.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o reis
  • galwyn o laeth
  • pwys o gyrens
  • pwys o resins
  • hanner pwys o siwgr coch
  • dwsin o wyau

Dull

  1. Crasu’r pwdin yn araf yn y dull arferol nes ei fod wedi ‘caledu’ i’r un ansawdd â theisen.
  2. Ei dorri’n ddarnau sgwâr a’i fwyta’n oer.

Margam, Morgannwg.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.