Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pwdin Bara

Dowlais, Merthyr Tudful

Mrs. Jane Davies, Parc, Y Bala ar ddiwrnod crasu bara, 1943

Yr oedd hi’n arfer gan amryw o wragedd gweddwon yn y pentrefi glofaol i wneud y pwdin hwn yn arbennig ar gyfer ei werthu, naill ai o’u cartrefi neu yn y farchnad leol, e.e. Cwm-aman, Aberdâr, Morgannwg.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • wyth owns o fara sych
  • dŵr oer
  • dau wy wedi’u curo
  • ychydig o laeth
  • dwy owns o siwgr coch
  • pedair owns o syltanas neu gyrens

Dull

  • Rhoi’r bara yn wlych mewn dŵr oer dros nos.  (Gellir defnyddio tê oer neu laeth oer yn lle’r dŵr yn ôl y dewis.)
  • Drannoeth, gwasgu gweddill y dŵr na lyncwyd gan y bara ohono, ac ychwanegu’r wyau, y siwgr coch, y syltanas ac ychydig o laeth ato. 
  • Eu curo’n dda nes cael cymysgedd o’r un ansawdd â chymysgedd teisen gyffredin. 
  • Gellir ei flasu ag ychydig o nymteg, os dymunir.
  • Iro tun bas, rhoi’r cymysgedd ynddo, ac ychwanegu talpau o ymenyn ar ei wyneb. 
  • Ei grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr nes gwelir bod yr wyneb wedi cochi.
  • Torri’r pwdin yn ddarnau sgwâr a’i fwyta fel teisen.

Gellir ychwanegu rhagor o laeth at y cymysgedd i’w wneud yn bwdin meddal.

Dowlais, Morgannwg.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.