Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Twmplins Afalau

Pen-prysg, Morgannwg

Arllwys llefrith oer dros y dwmplins afalau

Yr oedd hi’n arferiad cyffredin i ferwi twmplins gyda’r llysiau yn y cawl mewn rhai ardaloedd.  Byddid yn defnyddio’r saim oddi ar wyneb y cawl i wlychu’r crwst yn lle rhoi lard ynddo.  Rhaid oedd gofalu bod y cawl yn berwi pan roid hwy ynddo gan fod cawl (neu ddŵr) berw yn ‘clymu’r’ crwst a’i rwystro rhag chwalu.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • afalau – yn ôl rhif y teulu
  • crwst brau

Dull

  1. Gwneud crwst brau ymlaen llaw drwy rwbio ychydig o lard i mewn i flawd plaen a’i wlychu â dŵr. 
  2. Gyrru’r crwst yn weddol denau. 
  3. Golchi’r afalau’n lân a chadw’s croen amdanynt.
  4. Torri’r crwst yn ddarnau (yn ôl maint yr afalau), lapio un darn yn dynn am bob afal i wneud ail groen iddo.
  5. Berwi llond sosban o ddŵr, gollwng y twmplins i’r dŵr berw hwn a’u coginio nes gwelir craciau bach yn ymddangos ar wyneb y crwst.  Y mae hyn yn brawf bod yr afal wedi digoni.
  6. Agor y twmplins, rhoi trwch o siwgr coch ar yr afal a’u bwyta’n gynnes, gydag ychydig o laeth oer arnynt.

Pen-prysg, Morgannwg.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.