Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Cig Moch, Iau a Nionod

Pen Llŷn, Gwynedd

Yr oedd hwn yn bryd blasus iawn ar gyfer ‘swper chwarel’.

Rhostryfan, Caernarfon.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner pwys o gig moch
  • pwys o iau
  • nionod
  • halen a phupur
  • ychydig o flawd gwyn

Dull

  • Torri’r iau’n dafelli, eu golchi, a’u gorchuddio ag ychydig o flawd gwyn, pupur a halen. 
  • Ffrio’r cig moch yn ysgafn a’i godi i ddysgl boeth.
  • Rhoi’r iau a’r nionod (wedi’u torri’n fân) yn saim y cig moch, eu ffrio gyda’i gilydd a’u codi i’r un ddysgl.
  • Cymysgu llond llwy fwrdd o flawd gwyn i mewn i’r saim yn y badell ffrio, tywallt ychydig o ddŵr berwedig arnynt, eu cymysgu’n dda a’u berwi am ychydig funudau i wneud grefi.
  • Berwi tatws mewn sosban ar wahân.

Llŷn.

Ffilm/Recordiad

Mrs Edith May Hughes, Llannerch-y-medd, Môn yn disgrifio sut y byddai ei mam yn paratoi iau a nionod. Ganed Mrs Hughes yn 1904.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Margaret Heather Cole
17 Mawrth 2019, 21:44
This is my grandmother even though I can't understand a thing hearing her voice again has been amazing x