Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Twmplen

Pennant, Powys

‘Roedd gwneud twmplen i ginio yn beth cyffredin iawn ar ffermydd mewn rhannau o sir Drefaldwyn.  Yno, ar un adeg, byddent yn bwyta darn mawr ohoni o flaen y tatws a’r cig, ond disodlwyd yr arfer hynny gan y dull cyffredin o’i bwyta fel pwdin ar ôl y cinio.

Pan fyddai’r ffrwythau yn brin yr oedd hi’n arfer i ferwi ‘twmplen ddall’, sef twmplen blaen heb ddim ffrwythau ynddi.  Byddid yn taenu jam neu driog arni wrth ei bwyta.

‘Pwdin berwi’ neu ‘pwdin siwet’ y gelwid hwn mewn rhannau o sir Gaernarfon, e.e.

Mynytho, Llŷn.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys a hanner o flawd plaen
  • hanner pwys o lard neu doddion (neu siwet)
  • hanner llond llwy de o halen
  • hanner llond llwy de o soda pobi
  • hanner peint o laeth enwyn
  • jam neu unrhyw ffrwyth

Dull

  1. Rhwbio’r lard i mewn i’r blawd a’r halen. 
  2. Toddi’r soda pobi yn y llaeth enwyn a’i dywallt yn raddol i’r blawd i wneud toes.
  3. Gyrru’r toes yn ddarn hirgul, taenu unrhyw fath ar jam neu ffrwythau (riwbob, ffebrins, etc.) arno a’i rolio’n dynn ar ei gilydd (cf. rolipoli). 
  4. Rhoi’r dwmplen mewn darn mawr o liain gwlyb, clymu’r ddau ben â llinyn, ac yna ei rhoi mewn dŵr berw. 
  5. Berwi’r dwmplen am awr a hanner neu ddwy awr.
  6. Taenu siwgr ar dafell ohoni a thywallt llefrith arni, yn ôl y dewis.

Pennant, Maldwyn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.