Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pwdin Berwi

Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Arllwys llefrith oer dros y dwmplins afalau

Y Rysáit

Byddwch angen

  • blawd plaen
  • halen
  • siwgr
  • cyrens
  • ychydig o siwet (ar ôl lladd llwdn)
  • soda pobi
  • dŵr berw
  • llaeth enwyn
  • (Ni fyddid yn mesur y defnyddiau uchod, ond yn mynd yn ôl ‘synnwyr y fawd’.)

Dull

  1. Cymysgu’r defnyddiau sych mewn dysgl. 
  2. Toddi’r soda pobi mewn dŵr berw ac ychwanegu llaeth enwyn ato ar ôl iddo oeri. 
  3. Ei dywallt yn raddol i ganol y defnyddiau sych a’u cymysgu â llwy bren.
  4. Rhoi’r cymysgedd mewn cwd lliain, clymu hwnnw’n dynn â llinyn a’i ferwi mewn dŵr am awr neu ragor.

Arferid gwneud saws gwyn i’w dywallt ar dafelli o’r pwdin hwn.

Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.