Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Pwdin Berwi
Gŵyr
Yr oedd hwn yn cael ei fwyta’n fynych ar ôl cinio ym Mro Gŵyr yn ystod misoedd y gaeaf.
Bro Gŵyr.
Y Rysáit
Byddwch angen
- chwech owns o flawd plaen
- dwy owns o siwgr
- dwy owns o lard neu ymenyn
- hanner peint o laeth cynnes
- llond llwy de o sinsir
- hanner llond llwy de o soda pobi
- ffrwythau sych (yn ôl y dewis)
Dull
- Cymysgu’r defnyddiau sych mewn dysgl, toddi’r lard neu’r ymenyn yn y llaeth cynnes a’u harllwys ar y cymysgedd i’w wlychu’n drwyadl.
- Iro basn, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i orchuddio â phapur ymenyn neu liain.
- Rhoi’r basn i sefyll mewn sosban gydag ychydig o ddŵr ynddi.
- Berwi’r dŵr am ryw awr a hanner fel y bo’r pwdin yn cael ei goginio yn yr ager a fydd o’i gwmpas.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.