Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pwdin Modryb Martha

Gŵyr

Yr oedd hwn yn bwdin cyffredin a fwyteid gan y teuluoedd tlawd gan nad oedd angen prynu llawer o ffrwythau i’w rhoi ynddo.

Bro Gŵyr.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pum owns o friwsion bara
  • un wy wedi’i guro
  • dwy owns o ymenyn
  • dwy owns o siwgr
  • un lemon
  • llond cwpan o laeth
  • chwarter pwys o resins
  • nytmeg

Dull

  1. Berwi’r llaeth a’i arllwys dros y bara a’r siwgr mewn dysgl. 
  2. Ychwanegu’r wy, sudd a chroen y lemon, yr ymenyn a’r nytmeg at y cymysgedd a’u curo’n dda am rai munudau. 
  3. Iro basn pwdin ag ymenyn, rhoi’r resins ar yr ymenyn, yma a thraw, y tu mewn i’r basn ac arllwys y cymysgedd iddo. 
  4. Rhoi’r basn i sefyll mewn sosban ac ychydig o ddŵr ynddi, a’i ferwi am ryw awr a hanner.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.