Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Dowset

Gŵyr

Y lle tân yng nghegin Tŷ Newydd Ffynnon, Manod ger Blaenau Ffestiniog. Enghraifft o range a welid yn gyffredin mewn ffermdai a bythynnod yng Nghymru.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • crwst brau
  • dau wy mawr wedi’u curo
  • hanner peint o laeth
  • llond llwy bwdin o flawd plaen
  • ychydig o halen
  • ychydig o nytmeg
  • dau lond llwy fwrdd o siwgr

Dull

  1. Cymysgu’r blawd ag ychydig o’r llaeth a’i ychwanegu at yr wyau ynghyd â gweddill y llaeth. 
  2. Eu blasu â’r siwgr a’r halen.
  3. Gorchuddio ochrau a gwaelod dysgl bwdin ddofn â chrwst brau, arllwys y cymysgedd arno a malu ychydig o nytmeg ar ei wyneb.
  4. Ei grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw hanner awr nes bod y cymysgedd wedi tewhau.

Bro Gŵyr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.