Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Dowset

Gŵyr

Ffermdy Kennixton yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Byddai gwragedd ffermydd Bro Gŵyr yn crasu llond tun mawr o’r pwdin hwn yn y ffwrn wal ar ddiwrnod crasu bara, a’i gadw ar gyfer cinio’r teulu ddydd Sadwrn.  Byddent yn brysur yn glanhau’r tŷ fore Sadwrn ac ni fyddai amser ganddynt i baratoi cinio o gig a thatws y diwrnod hwnnw.

Bro Gŵyr.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • crwst tenau
  • chwe llond llwy fwrdd o flawd plaen
  • hanner llond llwy de o bowdr codi
  • dau lond llwy de o siwgr
  • ychydig o halen
  • un wy wedi’i guro’n dda
  • jam

Dull

  1. Gorchuddio tu mewn dysgl bwdin â chrwst tenau a rhoi haen o jam arno. 
  2. Cymysgu’r defnyddiau sych â’r wy a’u harllwys ar y jam.
  3. Crasu’r pwdin mewn ffwrn weddol boeth nes y bo’n felyngoch ei liw.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Sara Staff Amgueddfa Cymru
26 Mawrth 2018, 10:09

Dear Sarah

Of course! The information is here for you to use as you see fit. It'd be great if you could mention that it came from our Social History archives, but you don't have to - hope your talk goes well.

Best wishes

Sara
Digital Team

Sarah Lever
25 Mawrth 2018, 16:50

May I please use this recipe for a U3A presentation?