Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pwdin Mamgu

Gŵyr

Arllwys llefrith oer dros y dwmplins afalau

Y Rysáit

Byddwch angen

  • wyth owns o friwsion bara wedi sychu
  • dwy owns o siwet wedi’i falu’n fân
  • tri chwarter pwys o fwyar duon
  • tri chwarter pwys o afalau wedi’u tafellu
  • tair owns o siwgr
  • hanner peint o laeth

Dull

  1. Rhoi’r briwsion bara i fwydo yn y llaeth, ychwanegu’r siwet a’u cymysgu’n dda.
  2. Iro dysgl bwdin a rhoi haen o’r cymysgedd ar ei gwaelod. 
  3. Rhoi haen o fwyar duon ac afalau ar y cymysgedd hwn a thaenu ychydig o siwgr drostynt.
  4. Llenwi’r ddysgl â haen o’r cymysgedd briwsion bara ar yn ail â’r ffrwythau gan roi haen drwchus o’r cymysgedd ar wyneb y ddysgl.
  5. Ei grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr nes bod wyneb y pwdin yn felyngoch.

Bro Gŵyr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.