Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Mwyar Duon

Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Y Rysáit

Byddwch angen

  • tafell dew o fara gwyn
  • mwyar duon
  • siwgr
  • ychydig o ddŵr
  • hufen

Dull

  1. Rhoi tafell fawr o fara (heb grwstyn arni) ar waelod dysgl. 
  2. Mud-ferwi’r mwyar a’r siwgr mewn ychydig o ddŵr nes bod y ffrwyth wedi meddalu. 
  3. Yna arllwys y cyfan ar wyneb y bara.
  4. Gadael i’r mwyar oeri cyn arllwys hufen ffres drostynt.

Caerfyrddin.

Ffilm/Recordiad

Cesglid ffrwythau gwyllt o'r gwrychoedd yn ôl y tymor. Dyma Rhian Gay yn paratoi pwdin syml a blasus iawn, digon tebyg i Bwdin yr Haf, sy'n gwneud defnydd o fwyar duon.

Cesglid ffrwythau gwyllt o'r gwrychoedd yn ôl y tymor. Dyma Rhian Gay yn paratoi pwdin syml a blasus iawn, digon tebyg i Bwdin yr Haf, sy'n gwneud defnydd o fwyar duon.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.