Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Whipod

Gŵyr

Arllwys llefrith oer dros y dwmplins afalau

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner llond cwpan o reis
  • hanner peint o laeth berw
  • chwarter llond llwy de o halen
  • llond llwy fwrdd o siwgr
  • llond llwy de o ymenyn
  • un wy wedi’i guro
  • croen lemon wedi’i falu

Dull

  1. Rhoi’r reis yn wlych mewn dŵr cynnes am dair awr. 
  2. Hidlo’r dŵr oddi ar y reis, ei roi mewn sosban ac arllwys y llaeth berw arno. 
  3. Ei ferwi am hanner awr cyn rhoi’r siwgr, yr ymenyn a’r halen ynddo. 
  4. Ei fud-ferwi eto am ryw ddeng munud, ac yna ei adael i oeri cyn arllwys yr wy iddo’n araf a rhoi’r croen lemon ynddo.
  5. Ei droi a’i godi i’r berw eto nes gwelir y cymysgedd yn tewhau.

Bro Gŵyr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.