Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Whipod
Gŵyr
Cysylltid y pwdin hwn â thymor y cynhaeaf llafur ar y ffermydd ym Mro Gŵyr. Byddai’r gwragedd yn ei gario allan i’r caeau fel rhan o ginio’r gweithwyr neu fe’i caent i swper gyda bara ‘menyn.
Bro Gŵyr.
Y Rysáit
Byddwch angen
- dau lond llwy fwrdd o flawd plaen
- dau lond llwy fwrdd o siwgr
- peint o laeth
- dwy owns o gyrens
- ychydig o halen
- talp o ymenyn
- ychydig o nytmeg
- owns o bîl
Dull
- Cymysgu’r blawd ag ychydig o’r llaeth.
- Rhoi gweddill y llaeth mewn sosban a’i godi i’r berw.
- Pan fo ar fin berwi, ei arllwys ar y cymysgedd blawd ac ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt.
- Arllwys y cymysgedd hwn yn ôl i’r sosban a’i droi’n ddibaid wrth ei ferwi am bymtheng neu ugain munud.
- Dylid ei fwyta’n gynnes bob amser.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.