Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Pwdin Llaeth Brith
Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Amrywiai’r enwau a roid ar y pwdin hwn mewn gwahanol rannau o Gymru, yn ogystal â’r dull o’i wneud. Er hynny, ‘roedd yn bwdin cyffredin mewn llawer ardal, ac yn debyg o ran ansawdd i gwstard wy. Yr oedd ‘pwdin llo bach’ yn enw cyffredin arno yn siroedd Dinbych a Meirionnydd ac fe’i gelwid yn ‘pwdin llaeth tor’ ym Môn.
Y Rysáit
Byddwch angen
- yr ail neu’r trydydd llefrith ar ôl i fuwch ddod â llo bach
- siwgr
- halen
- sinsir (neu gyrens, yn ôl y dewis)
Dull
Rhoi’r defnyddiau uchod mewn dysgl a’u crasu mewn popty cynnes nes bod y llefrith wedi tewhau. (Gellid ychwanegu ychydig o lefrith cyffredin i’w atal rhag mynd yn rhy dew.)
neu
Rhoi’r defnyddiau uchod mewn jwg neu dun dwfn a chaead arno a rhoi hwnnw i sefyll mewn hanner llond sosban o ddŵr. Codi’r dŵr i’r berw a choginio’r pwdin yn araf yn y gwres hwnnw.
Dyffryn Ardudwy.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.