Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Cyflaith

Pennant, Powys

Miss Gretta Jones, Parc, Y Bala yn torri'r cyflaith'

‘Roedd cynnal ‘Noson Gyflaith’ gynt yn arfer draddodiadol mewn rhannau o ogledd Cymru i ddathlu’r Nadolig neu’r Flwyddyn Newydd.  Yn eu tro, byddai teuluoedd yn gwahodd eu ffrindiau i’w cartrefi fin nos.  Paratoent swper mawr ar eu cyfer, yn cynnwys gŵydd a phwdin Nadolig, fel rheol, ac yna byddai’r cwmni’n ymuno mewn chwaraeon, yn adrodd straeon ac yn tynnu cyflaith.

Ar ôl berwi’r defnyddiau angenrheidiol i ryw ansawdd arbennig, tywelltid y cyflaith allan ar lechen neu garreg fawr wedi’i hiro ag ymenyn.  Byddid yn glanhau carreg yr aelwyd a’i hiro ar gyfer yr achlysur hwn weithiau.  Yna byddai pob aelod o’r cwmni yn iro’i ddwylo ag ymenyn ac yn cymryd darn o’r cyflaith i’w dynnu tra byddai’n gynnes.  ‘Roedd hon yn grefft arbennig ac anelid at dynnu’r cyflaith hyd nes y deuai’n rhaffau melyngoch.  Byddai’r dibrofiad yn edmygu medrusrwydd y profiadol ond ‘roedd aflwyddiant y dibrofiad yn destun hwyl i bawb.

‘Roedd cyflaith yn cael ei wneud mewn rhannau o dde Cymru hefyd, yn enwedig yn y cymoedd glo.  Hyd y gwyddom ni chysylltid ef ag unrhyw ŵyl arbennig yno, ond ‘roedd yn arfer gan wragedd i’w werthu o’u cartrefi neu yn y farchnad leol.  ‘Roedd ‘dant’ a ‘ffani’ ymhlith yr enwau a roid arno, ac weithiau rhoid enw’r gwneuthurwr arno, er enghraifft, ‘losin Magws’ neu ‘losin Ansin bach’.  Gwerthid ef yn ddarnau bach, tua dwy owns am geiniog.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • tri phwys o siwgr llwyd, meddal
  • hanner pwys o ymenyn hallt
  • sudd un lemon
  • chwarter peint o ddŵr berw (neu ragor os bydd y siwgr o ansawdd sych)

Dull

  1. Tywallt y dŵr berw dros y siwgr yn y sosban, a thoddi’r siwgr yn araf uwch ben tân gloyw, gan ei droi’n gyson â llwy bren hyd nes iddo doddi’n llwyr.  (Cymer hyn ryw ugain munud, yn ôl ansawdd y siwgr.)
  2. Codi’r sosban oddi ar y tân, ychwanegu sudd y lemon a’r ymenyn (wedi’i feddalu) at y siwgr, a’u cymysgu’n drwyadl. 
  3. Yna berwi’r cymysgedd yn weddol gyflym am ryw chwarter awr heb ei droi o gwbl.
  4. Gollwng llond llwy de o’r cymysgedd i lond cwpan o ddŵr oer.  Os bydd hwn yn caledu yn y dŵr ar unwaith fe fydd y cyfan wedi berwi digon. 
  5. Yna arllwys y cymysgedd yn raddol i ddysgl fawr, agored, wedi’i hirio ag ymenyn ymlaen llaw.  (Peidier â rhoi crafion y sosban yn y ddysgl rhag iddynt droi’r cyflaith yn siwgr drachefn.)
  6. Iro’r dwylo ag ymenyn a thynnu’r cyflaith yn rhaffau hir, melyn eu lliw.

Pennant, Trefaldwyn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.