Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Y Rysáit
Byddwch angen
- dau bwys o driog du
- dau bwys o driog melyn
- dau bwys o siwgr gwyn
- pwys o ymenyn
Dull
- Rhoi’r defnyddiau mewn sosban fawr (enamel neu bres) a’u toddi’n araf uwch ben gwres cymhedrol.
- Yna codi’r cymysgedd i’r berw a’i ferwi’n gyflym am ryw ugain munud. Rhaid troi’r cymysgedd yn ofalus drwy’r amser rhag iddo losgi.
- Profi ei ansawdd ymhen yr ugain munud drwy ollwng llond llwy de ohono i lond cwpan o ddŵr oer. Os bydd hwn yn caledu yn y dŵr ar unwaith gan adael y dŵr yn hollol glir fe fydd y cyfan wedi berwi digon.
- Yna tywallt y cyflaith berw ar fwrdd llechen neu ddysgl agored wedi’i hiro ymlaen llaw.
- Iro’r dwylo ag ymenyn a thynnu’r cyflaith yn rhaffau hirion, melyn cyn gynted ag y gall dwylo oddef ei wres.
- Torri’r rhaffau’n ddarnau bychain cyn iddynt galedu.
Parc, Meirionnydd.
sylw - (1)