Rhoi’r defnyddiau (ac eithrio’r olew) mewn sosban haearn bwrw, eu troi’n gyson, a’u berwi’n ofalus am ryw bymtheng munud.
Codi ychydig o’r cymysgedd i lond cwpan o ddŵr oer ac os bydd yn caledu ar unwaith gan ddisgyn i waelod y cwpan bydd y cyfan wedi berwi i’r ansawdd priodol.
Yna arllwys y rhan fwyaf ohono allan ar fwrdd llechen neu faen wedi’i iro’n dda ag ymenyn, gan gadw rhyw gymaint ohono’n weddill yn y sosban mewn lle cynnes. (Dylid cadw hwn rhag caledu.)
Iro’r dwylo ag ymenyn a thynnu’r hyn sydd ar y maen cyn gynted ag y gall dwylo oddef ei wres.
Ychwanegu ychydig o’r olew ato wrth ei dynnu a pharhau i’w dynnu nes y daw i’r un lliw â hufen.
Ei osod yn stribedi hir, gwastad (tua modfedd o led) ar y bwrdd, ac arllwys y taffi brown, sydd yn weddill yn y sosban, yn llinell denau ar ganol pob stribed.
Torri’r stribedi’n ddarnau bychain cyn iddynt galedu.
Gwaelod-y-garth, Morgannwg.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.