Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Jam Riwbob

Pontyberem, Sir Gaerfyrddin

Riwbob yn tyfu yn nghardd Rhyd-y-car

Y Rysáit

Byddwch angen

  • saith bwys o riwbob
  • saith bwys o siwgr lwmp
  • sudd a chroen dau lemon
  • dwy owns o gnau almon
  • chwe chlowsen a hanner nytmeg mewn cwd mwslin

Dull

  1. Torri’r riwbob yn ddarnau o ryw fodfedd o hyd, eu rhoi mewn sosban fawr a’u gadael i sefyll mewn lle cynnes am rai oriau.  (Ar y pentan wrth ochr y tân y rhoid hwy gynt.) 
  2. Pan welir bod y sudd wedi dod allan o’r ffrwyth, ychwanegu’r siwgr atynt, ynghyd â’r cnau almon wedi’i torri’n fân, a sudd a chroen y ddau lemon. 
  3. Berwi’r cyfan nes gwelir y jam yn tewhau. 
  4. Yna rhoi’r nytmeg a’r clows i sefydd ynddo tra bydd yn oeri. 
  5. Codi’r cwd allan o’r jam a rhoi’r jam mewn potiau cynnes. 
  6. Eu gorchuddio’n y dull arferol.

Pontyberem, Caerfyrddin.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.