Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Jam Mwyar Duon

Pontyberem, Sir Gaerfyrddin

Gwneud jam yn Afallon, Maenclochog, Dyfed, 1970au

Y Rysáit

Byddwch angen

  • saith bwys o fwyar duon
  • saith bwys o siwgr
  • llond llwy gawl o ddŵr oer

Dull

  1. Rhoi’r mwyar mewn sosban fawr, ychwanegu’r dŵr atynt a’u gadael i sefyll mewn lle cynnes am rai oriau.  (Ar y pentan wrth ochr y tân y rhoid hwy gynt.) 
  2. Dylid rhoi tro i’r ffrwythau bob hyn a hyn i helpu’r sudd i ddod allan ohonynt. 
  3. Pan welir bod y ffrwythau bron codi i’r berw, rhoi’r siwgr arnynt a berwi’r cyfan yn gyflym am dair munud yn unig. 
  4. Rhoi’r jam mewn potiau cynnes ar ôl iddo glaearu.

Pontyberem, Caerfyrddin.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.