Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Tato Rhost

Pren-gwyn, Ceredigion

Tân ar y llawr yng nghegin Pontfaen, Ciliau Aeron, sir Aberteifi.

Tân ar y llawr yng nghegin Pontfaen, Ciliau Aeron, sir Aberteifi.

Paratoid y pryd hwn mewn ‘ffwrn fach’, math ar grochan bach a grogai uwchben y tân.  O’r herwydd nid oedd angen llawer o sylw a gofal arno.  Yr oedd ‘tato rhost a llaeth enwyn’ yn ginio arbennig ar ddiwrnod corddi yn yr haf.

‘Tato pobi’ yw’r enw ar y bwyd hwn mewn rhan arall o sir Aberteifi, e.e. Cellan, Aberteifi.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • tato
  • sleisennau o gig moch
  • winwns neu gennin syfi
  • ychydig o ddŵr

Dull

  1. Rhoi tair neu bedair sleisen drwchus o gig moch ar waelod sosban, eu gorchuddio â haen o dato a rhoi winwns wedi’u sleisio ar wyneb y tato. 
  2. Ychwanegu haen arall o dato ac o winwns gyda haen arall o gig moch eto ar y wyneb.
  3. Eu mud-ferwi’n araf mewn ychydig o ddŵr gan adael i’r dŵr sychu ac i’r tato gochi yn saim y cig moch.

Pren-gwyn, Aberteifi.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.