Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Gwlychu toes. Miss Margied Jones, Llanuwchllyn, Meirionnydd.
Ar ddiwrnod crasu bara, yr oedd hi’n arfer gan rai gwrageddi gadw darn o’r toes o’r neilltu a’i lunio’n dorth fach i’w chrasu ar y radell (neu’r planc).
Bwyteid hon yn ffres i de y diwrnod hwnnw tra bod gweddill y bara yn cael ei grasu yn y ffwrn. Y mae enw’r dorth hon yn amrywio, yn ôl yr enw a arferir am yr offeryn y cresid hi arno, gan amlaf, e.e., ‘bara planc’ (Cwm Gwaun), ‘bara mân’ (Bryn, Port Talbot), ‘picen ar y lychwan’ (Tonyrefail). Ceir yr enw ‘bara prwmlid’ ym Mhen-prysg, ger Pen-coed.
Yn yr un modd, cedwid darn o’r toes er mwyn llunio torthau bach ohono i’w crasu ar waelod y ffwrn. Ceir tystiolaeth i brofi bod maint y torthau hyn yn amrywio o ardal i ardal yn ogystal â’u henwau, e.e., ‘bara bricen’ (Pen-gwyn), ‘cwgen’ (Brynberian), ‘torth gwaelod popty’ (Rhydymain), ‘torth ar fflat y ffwrn’ (Ystalyfera), ‘torth ar llawr y ffwrn’ (Mynydd Cynffig), ‘sôts’ (Dowlais) a ‘hogen’ (Bwlch-llan).
Brycheiniog.
Arfer cyffredin arall ar ddiwrnod crasu bara oedd cadw darn o’r toes yn weddill er mwyn gwneud math o deisen ohono. Efallai na fyddai gan y wraig na’r amser na’r defnyddiau i wneud teisen arbennig ar gyfer ei theulu ond byddai cael teisen o’r toes yn foethyn ganddynt. Y dull mwyaf cyffredin o’i pharatoi oedd:
Dyma rai o’r enwau a ddefnyddid i ddisgrifio’r deisen hon mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru: ‘teisen fara’ (Tonyrefail), ‘torth fach’ (Rhoslan), ‘teisen dôs cwnnad’ (Bryn ger Port Talbot), ‘cacen does’ (Llanbedr ger Harlech), ‘teisen does’ (Bryncroes), ‘torth gyrens’ (Llanuwchllyn), ‘torth gri’ (Mynytho), ‘bara cwrens’ (Brynberian), ‘cwgen gyrens’ (Cei Newydd), ‘pics’ (Cross Inn), ‘picen’ (Gelli-wen) a ‘pice cyrens’ (Ystalyfera).
Ffilm bwysig yn dangos yr hen ddull traddodiadol o grasu bara mewn ffwrn fach.
Yn y darn golygedig yma, gwelir Mrs Leis Rogers, Ffair-rhos yn codi toes a gymysgwyd ac a dylinwyd eisoes o'r badell a'i roi ar fwrdd y gegin. Yna mae'n ei dylino'n ysgafn a'i lunio'n dorth gron. Marcio'r wyneb wedyn â chyllell cyn rhoi'r dorth yn y ffwrn fach i'w chrasu ar y tân agored. Rhoi'r clawr ar y ffwrn ac yna codi darnau o fawn coch o'r tân ag efail haearn a'u rhoi ar wyneb y clawr yn drefnus - llanw o gwmpas ymyl y clawr yn gyntaf, yna llanw'r canol. Rhoi darnau o fawn ffres ar y tân o dan y ffwrn. Awr yn ddiweddarach, mae Mrs Rogers yn codi'r clawr oddi ar y ffwrn yn ofalus â'r efail - gofalu bod dim o'r llwch mawn yn syrthio ar wyneb y dorth. Y dorth wedi crasu - ei chodi allan o'r ffwrn, taro'r ochr isaf â dwrn i'w phrofi a'i rhoi ar y bwrdd i oeri.
Dear Janet Jones,
Thank you for getting in touch with us. I passed your message on to my colleague who is the Principal Curator for Historic Interiors, Social & Cultural History. She believes that the bread you described could potentially be either 'Griddle Bread' or 'Unleavened Bread'. I hope this information has helped in answering your question.
Kind regards,
Nia (Digital team)