Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Planc

Crymych, Sir Benfro

Crasu bara planc. Mrs Rachel Thomas, Manordeilo, Sir Gaerfyrddin.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • dau bwys o flawd
  • chwarter llond llwy de o halen
  • chwarter llond llwy de o siwgr
  • owns o furum
  • llaeth cynnes
  • ychydig o ddŵr cynnes

Dull

  1. Gogr yn y blawd, y siwgr a’r halen i badell gynnes.
  2. Cymysgu’r burum ag ychydig o ddŵr cynnes a’i adael i ‘weithio’ am rai munudau. 
  3. Yna ei arllwys i bant yng nghanol y defnyddiau sych gan ychwanegu llaeth cynnes, yn ôl yr angen, nes cael toes meddal. 
  4. Gadael i’r toes hwn godi mewn lle cynnes am ryw awr neu awr a hanner.
  5. Rhannu’r toes a’i lunio’n dorthau hwylus yn ôl maint y planc, gan ofalu peidio â’u gwneud yn rhy drwchus.
  6. Crasu’r torthau ar y ddwy ochr ar blanc gweddol boeth.

Crymych, Penfro.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Morwen Rowlands
21 Awst 2021, 19:00
Dw i'n cofio clywed am fara planc yn Llanycefn Sir Benfro pan wên i'n blentyn nôl yn y 50au. Diolch am y riset. Dw i'n mynd i fentro ei ddilyn gan fod 'da fi rhywbeth tebyg i blanc lle dw i'n neud cace bach - Welsh cakes. Ai fflŵr 'cryf' dylwn i ei ddefnyddio neu fflŵr cyffredin plaen?