Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Can

Rhyd Lewis, Ceredigion

Crasu bara mewn popty mawr.

Moethyn i’w fwyta ar y Sul yn unig oedd y bara hwn.

Llanrhystud, Aberteifi.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd gwyn
  • hanner owns o furum
  • owns o ymenyn
  • wy
  • ychydig o halen
  • hanner peint o laeth claear

Dull

  1. Rhoi’r blawd a’r halen mewn dysgl a rhwbio’r ymenyn i mewn iddynt. 
  2. Toddi’r burum mewn dŵr cynnes, a churo’r wy mewn dysgl arall. 
  3. Gwneud pant yng nghanol y blawd ac arllwys y burum, yr wy a’r llaeth iddo. 
  4. Eu cymysgu’n dda â llwy bren cyn dechrau gweithio’r blawd i mewn iddynt yn raddol.
  5. Yna tylino’r toes nes ei fod yn feddal ac yn ystwyth, a’i lunio’n dorth. 
  6. Iro tun, rhoi’r dorth ynddo a’i gadael i godi mewn lle cynnes nes gwelir bod ei maint wedi dyblu.
  7. Crasu’r dorth mewn ffwrn boeth am ryw hanner awr.

Rhydlewis, Aberteifi.

Ffilm/Recordiad

Ffilm bwysig yn dangos yr hen ddull traddodiadol o grasu bara mewn ffwrn fach.

Yn y darn golygedig yma, gwelir Mrs Leis Rogers, Ffair-rhos yn codi toes a gymysgwyd ac a dylinwyd eisoes o'r badell a'i roi ar fwrdd y gegin. Yna mae'n ei dylino'n ysgafn a'i lunio'n dorth gron. Marcio'r wyneb wedyn â chyllell cyn rhoi'r dorth yn y ffwrn fach i'w chrasu ar y tân agored. Rhoi'r clawr ar y ffwrn ac yna codi darnau o fawn coch o'r tân ag efail haearn a'u rhoi ar wyneb y clawr yn drefnus - llanw o gwmpas ymyl y clawr yn gyntaf, yna llanw'r canol. Rhoi darnau o fawn ffres ar y tân o dan y ffwrn. Awr yn ddiweddarach, mae Mrs Rogers yn codi'r clawr oddi ar y ffwrn yn ofalus â'r efail - gofalu bod dim o'r llwch mawn yn syrthio ar wyneb y dorth. Y dorth wedi crasu - ei chodi allan o'r ffwrn, taro'r ochr isaf â dwrn i'w phrofi a'i rhoi ar y bwrdd i oeri.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Sandra hasan
1 Ionawr 2021, 19:23
Thank you for this video.

I was aware of the method. But had not seen it in action