Amser Bwyd
Bara Cymysg
Llanfachraeth, Sir Fôn
Yr hen ddull o grasu’r torthau hyn ym Môn oedd eu rhoi fesul un ar y radell, a phadell haearn wyneb i waered dros y dorth. Byddid yn cynnau tân ar y llawr, rhoi’r radell ar drybedd uwchben y tân, a chodi rhyw gymaint o’r tân hwnnw i orchuddio’r badell fel y bo’r gwres yn amgylchynu’r dorth. Gwellt neu rug wedi’u llosgi’n goch a ddefnyddid yn danwydd, ac un ymadrodd lleol i ddisgrifio’r dull hwn o grasu neu bobi oedd ‘pobi yn y baw’. Arferid yr un dull i grasu bara haidd yn Llŷn, ac amrywiai’r tanwydd yn ôl yr hyn a oedd ganddynt wrth law, e.e., mân us, eithin neu boethwal.
Yn yr un modd, cresid torth mewn ‘crochan pobi’, ‘cetel’, ‘cidl’ neu ‘ffwrn fach’ yn ôl yr enw a arferid am y math hwn o grochan mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.
Y Rysáit
Byddwch angen
- tri phwys o flawd gwyn
- pwys o flawd haidd
- owns o furum
- halen a dŵr cynnes
Dull
- Rhoi’r blodiau mewn dysgl fawr a’u cymysgu’n drwyadl cyn gwneud pant yn eu canol i dderbyn y burum.
- Toddi’r burum mewn ychydig o ddŵr cynnes, a’i dywallt i’r blawd.
- Taenu ychydig o flawd dros wyneb y burum, gorchuddio’r badell â lliain glân a’i gadael mewn lle cynnes am ryw ugain munud.
- Gwlychu’r toes â dŵr cynnes ac ychydig o halen ynddo, fel y bo angen.
- Tylino’r toes yn dda, gan gymryd mwy o amser i wneud hyn na phan fyddir yn tylino toes cyffredin.
- Rhoi lliain dros wyneb y badell eto, a gadael i’r toes godi mewn lle cynnes.
- Rhannu’r toes a’i lunio’n dorthau ar fwrdd pren.
- Rhoi’r torthau mewn tuniau a’u crasu mewn popty gweddol boeth.
Llanfachreth, Môn.