Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Bara Crai
Banwy, Powys
Yr oedd hi’n arfer gan wragedd i wneud bara o’r math hwn pan nad oedd ganddynt amser i wlychu toes yn y dull arferol a hwythau heb lawer o fara yn y tŷ. Nid yr un oedd yr enw a roid arno ymhob ardal, ac yr oedd ei gynnwys hefyd yn amrywio rhyw gymaint yn ôl arfer ardal. Defnyddid naill ai dŵr neu laeth enwyn i wlychu’r toes, a gellid cynnwys ychydig o siwgr a chyrens ynddo yn ôl y dewis. Arferid yr enwau canlynol arno mewn gwahanol rannau o Gymru: ‘bara crai’ (Aberaeron), ‘bara cri’ (Bont Dolgadfan), ‘bara llaeth enwyn’ (Crug-y-bar), ‘bara soda’ (Pennant, Llanbryn-Mair), a ‘bara trw’r dŵr’ (Abergorlech).
Y Rysáit
Byddwch angen
- pwys o flawd gwyn
- hanner llond llwy de o halen
- hanner llond llwy de o soda pobi
- hanner peint o laeth enwyn
- (ychydig o gyrens, weithiau)
Dull
- Rhoi’r blawd mewn dysgl a chymysgu’r halen (a’r cyrens) drwyddo.
- Toddi’r soda yn y llaeth enwyn, tywallt ychydig ohono i bant bach yng nghanol y blawd a chymysgu’r toes, gan ychwanegu gweddill y llaeth enwyn fel y bo angen.
- Gyrru’r toes yn ysgafn â rholbren a llunio torth gron ohono.
- Iro padell ffrio neu radell a’i chynhesu cyn rhoi’r dorth arni.
- Crasu’r dorth nes bod yr ochr isaf yn cochi’n ysgafn ac wyneb y dorth yn dechrau caledu, ei throi, a’i chrasu ar yr ochr arall.
Banwy Uchaf, Trefaldwyn.
sylw - (3)
RWYF WEDI RHOI COPI O RYSAIT 'bARA cRAI Dyffryn Banwy' i Raglen John ac Alun BBC Radio Cymru.
Gobeithio nad oes ots gan yr Amgueddfa !
dIOLCH YN FAWR ! - mARI g.
Many Thanks,
Robyn, Sydney, Australia