Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Y Rysáit
Byddwch angen
- tri phwys o flawd plaen
- dwy owns o furum
- pedair owns ar ddeg o siwgr coch
- wyth owns o lard
- dwy owns o ymenyn
- pwys yr un o gyrens, syltanas a resins
- tair owns o gandi lemon
- llond llwy bwdin o driog
- tri llond llwy de o halen
- dau wy wedi’u curo
- dŵr cynnes
Dull
- Toddi’r burum mewn ychydig o ddŵr cynnes ynghyd â’r triog a’i adael i ‘weithio’ mewn lle cynnes.
- Toddi’r lard a’r ymenyn ac ychwanegu’r wyau a’r siwgr atynt.
- Rhoi’r blawd a’r ffrwythau a’r halen mewn padell gynnes a’u gwlychu’n raddol â’r burum a’r triog ac â chymysgedd yr wyau, y lard a’r ymenyn.
- Tylino’r toes yn dda a’i roi i godi mewn lle cynnes am dair awr neu ragor.
- Iro tuniau a’u rhoi mewn lle cynnes.
- Codi’r toes i fwrdd pren nag ychydig o flawd arno, ei dylino a’i lunio’n dorthau yn ôl maint y tuniau.
- Gadael i’r toes godi yn y tuniau eto nes i’w faint ddyblu.
- Crasu’r torthau mewn popty cynnes iawn am yr awr gyntaf (450°F), popty cynnes (400°F) am yr ail awr a phopty gweddol gynnes (300°F) am yr awr olaf.
Llanfachreth, Môn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.