Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Brith

Y Bala, Gwynedd

Crasu torth mewn cidl

Y Rysáit

Byddwch angen

  • dau bwys o flawd
  • owns o furum
  • deuddeg owns o ymenyn
  • chwech owns o siwgr coch mân
  • chwech owns o gyrens
  • chwech owns o syltanas
  • tair owns o resins
  • dwy owns o bîl candi
  • hanner llond llwy de o halen
  • dau wy
  • ychydig o nytmeg neu sbeis
  • llond llwy bwdin o driagl du
  • llefrith cynnes
  • dŵr cynnes

Dull

  1. Cynhesu’r badell a’r blawd cyn dechrau.
  2. Rhwbio’r ymenyn i’r blawd, ychwanegu’r holl ddefnyddiau sych a’u cymysgu’n dda drwy’r blawd.
  3. Cymysgu’r burum ag ychydig o siwgr a hanner llond cwpan o lefrith cynnes. 
  4. Gwneud pant yng nghanol y defnyddiau sych a thywallt y burum a’r siwgr iddo.
  5. Taenu ychydig o’r blawd dros wyneb y burum, a’i adael i godi mewn lle cynnes am rai munudau.
  6. Yna curo’r wyau, eu tywallt i mewn i’r cymysgedd a dechrau tylino’r toes â llaw. 
  7. Toddi’r triagl du mewn dŵr cynnes a’i ychwanegu at y toes fel y bo angen wrth dylino.
  8. Rhoi lliain dros wyneb y badell a’i gadael eto mewn lle cynnes am ryw awr er mwyn i’r toes godi.
  9. Iro’r tuniau a’u rhoi mewn lle cynnes.
  10. Yna codi’r toes ar fwrdd pren a blawd arno, ei rannu a’i foldio’n dorthau yn ôl maint a ffurf y tuniau.
  11. Crasu’r torthau mewn popty gweddol boeth am tua awr a hanner.

Y Bala, Meirionnydd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.