Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Cyrens

Aberteifi, Ceredigion

Gwneid y bara hwn ar achlysuron arbennig yn unig, e.e., i ddathlu gorffen y cynhaeaf, y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Rhydlewis, Aberteifi.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • saith bwys o flawd gwenith
  • owns a hanner o furum
  • ychydig o halen
  • pwys o gyrens
  • dŵr a llaeth (glasdwr) cynnes

Dull

  1. Cymysgu’r burum ag ychydig o ddŵr cynnes.
  2. Gweithio’r cyrens drwy’r blawd, gwneud pant yn y canol ac arllwys y burum iddo. 
  3. Gadael i’r burum ‘weithio’ ryw gymaint yn y blawd cyn gwlychu’r toes â glasdwr cynnes a’r halen wedi’i doddi ynddo.
  4. Tylino’r toes yn dda, a’i adael i godi mewn lle cynnes am ryw awr a hanner.
  5. Llunio’r torthau a’u crasu yn y dull arferol mewn ffwrn boeth.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.